Croeso i Gay Christian Europe
Mae Gay Christian Europe yn cynnig cefnogaeth ac adnoddau amlieithog i Gristnogion o bob enwad yn Ewrop, sy’n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT) neu’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rywiol.
Cewch wybodaeth am Eglwysi Croesawgar LHDT*, Grwpiau Cefnogaeth a Llinellau Cymorth yn eich gwlad, llyfrau sy’n ymwneud a hoywder a Christnogaeth yn eich iaith eich hunan, a darllen Tystiolaethau Cristnogion eraill LHDT o’ch gwlad.
* Dim ond trwy gyfrinair y gellir gweld adran yr Eglwysi. Bydd angen cysylltu â ni i gael mynediad.
Ynglŷn
â
Gay Christian Europe
Tyfodd gweinidogaeth Gay Christian Europe o’r angen i greu gofod gyda naws Ewropeaidd, ac i ymestyn at Gristnogion LHDT yn Ewrop yn eu mhamiaith.
Cynigir cefnogaeth a hafan diogel i Gristnogion Hoyw, Lesbiaidd, Deurywiol a Thrawsrywiol ar draws Ewrop. Ein nod yw cefnogi pob unigolyn o ba bynnag enwad ar eu taith bersonol, gan gynnwys y rhai sydd heb fod yn Gristnogion ond a diddordeb yn y ffydd. Mae croeso i bawb pa un ai ydynt yn credu bod Duw’n bendithio partneriaethau cyfunrywiol ffyddlon, neu’n credu mai diweirdeb (celibacy) yw pwrpas Duw ar eu cyfer.
Un o’n hamcanion yw dod a Christnogion LHDT o bob gwlad Ewropeaidd i gyswllt â grwpiau, eglwysi croesawgar ac adnoddau sy’n lleol iddynt, yn ogystal ag adeiladu cymuned ar-lein ag un wyneb am wyneb.
Spiritual Retreat - July 2012
- Dates : 6th - 9th July 2012
- Location : Buckfast, Devon, UK
- Cost : £95.00 per person
(includes: shared accomodation for 3 nights, all breakfasts, Friday night, Saturday night & Sunday night dinners) - Schedule : Theme : FORGIVENESS.
Interdenominational Christian worship (in English), sharing time, socializing time, in a safe environment where you can be yourself fully, amongst LGBT Christians
































